Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020
Pwynt Craffu Technegol 1:
Mae’r addasiadau i Erthygl 6 (statws diwedd gwastraff) o Gyfarwyddeb 2008/98/EC (y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff) wedi eu drafftio’n briodol, am y rhesymau a nodir isod.
Ar hyn o bryd, mae dau ddull ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch a yw sylwedd neu wrthrych wedi peidio â bod yn wastraff at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff. Y dull cyntaf yw gwneud penderfyniad yn unol â meini prawf diwedd gwastraff manwl sydd wedi eu nodi yn neddfwriaeth yr UE, o ran mathau penodol o wastraff, er enghraifft, metel sgrap. Bydd deddfwriaeth o’r fath yn dod yn gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac adlewyrchir hynny ym mharagraff 1A(a) a fewnosodir yn Erthygl 6.
Pan na fo meini prawf manwl wedi eu nodi yn neddfwriaeth yr UE ar gyfer ffrydiau gwastraff penodol, mae gan Aelod-wladwriaethau ddisgresiwn o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, o fewn cyfyngiadau penodol, i ddyroddi canllawiau sy’n cynnwys meini prawf manwl ar gyfer pennu statws diwedd gwastraff. At y canllawiau hynny, a all gynnwys meini prawf manwl, y mae paragraff 1A(b) a fewnosodir yn cyfeirio.
Effaith rhoi’r geiriau “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” yn ail is-baragraff paragraff 2 o Erthygl 6 yw ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau sy’n cael eu llunio o dan baragraff 1A(b) a fewnosodir gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn ail is-baragraff paragraff 2 o Erthygl 6.
Pwynt Craffu Technegol 2:
Cytuno. Gwall drafftio yw hwn a chaiff ei gywiro ar y cyfle ymarferol cyntaf.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:
Wedi ei nodi.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 5:
Caiff Memorandwm Esboniadol wedi ei gywiro ei osod.